
Dewi Translation
Cyfieithu a Phrawfddarllen pwrpasol
o'r Saesneg i'r Gymraeg
Cyfieithu Pwrpasol o'r Saesneg i'r Gymraeg a Phrawfddarllen
Mae Dewi Translation yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg i nifer cyfyngedig o gleientiaid. Mae'r cleientiaid hyn yn derbyn gwasanaeth wedi'i deilwra drwy gydol eu prosiect. Gall cleientiaid anfon e-bost ar unrhyw adeg i ofyn am gyfieithiadau yn amrywio o eiriau sengl i ddogfennau helaeth.
​
Mae ein tîm o gyfieithwyr medrus yn ymdrin â phob math o brosiectau cyfieithu, gan arbenigo mewn deunyddiau addysgol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Mae gennym brofiad helaeth o gyfieithu gwefannau, adnoddau, taflenni ac e-byst, yn ogystal â dogfennau.
​
Mae ein prisiau'n dechrau ar 8.5 ceiniog y gair ac nid oes isafswm tâl am gyfieithiadau neu brawfddarlleniadau byr. Am ymholiadau ynghylch gwasanaethau rheolaidd neu gyfieithiadau untro, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
​
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan Dewi Translation, ewch i 'Ein gwasanaethau'; am brosiectau a phrofiad blaenorol, ewch i 'Amdanom ni' ac i ddarllen mwy am ein harbenigedd yn y sector addysg, ewch i 'Addysg'.
