Ein gwasanaethau
Mae Dewi Translation yn darparu gwasanaethau cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. Mae ei gleientiaid yn derbyn gwasanaeth pwrpasol ac ymroddedig trwy gydol eu prosiect. Gall cleientiaid anfon e-bost ar unrhyw bryd i ofyn am gyfieithiadau neu brawfddarllen sy'n amrywio o un neu ddau o eiriau i ddogfennau hir.
​
Nid oes isafswm tâl am gyfieithiadau neu brawfddarlleniadau byr a gallwn gynnig system credyd.
​​
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gleient rheolaidd neu os oes arnoch angen cyfieithiad untro.
Beth allwn ni ei gyfieithu neu ei brawfddarllen i chi?
Gall ein tîm bach o gyfieithwyr profiadol ymdrin ag unrhyw brosiect cyfieithu sydd gennych mewn golwg.
Gallwn ymdrin â chyfieithiadau o unrhyw hyd ac mae prisiau'n dechrau ar gyfradd sylfaenol o 8.5 ceiniog y gair am gyfieithu a £35 yr awr am brawfddarllen.
Cysylltwch â ni am ddyfynbris penodol, os gwelwch yn dda.
Gwasanaethau Cyfieithu
Gallwn gyfieithu testun o unrhyw hyd, yn amrywio o un neu ddau o eiriau i ddogfennau mawr, gan gynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol, ebyst, cyflwyniadau (PowerPoint, Canva, ac ati) a gwefannau.
Gwasanaethau Prawfddarllen
Mae ein gwasanaethau prawfddarllen yn sicrhau bod eich dogfennau a gyfieithwyd yn gywir ac nad ydynt yn cynnwys gwallau. Rydym yn mynd drwy gynnwys pob dogfen yn drylwyr i sicrhau eu bod yn rhwydd i’w darllen a’u bod yn cyfleu'r ystyr a fwriedir. Rydym hefyd yn cynnig prawfddarllen dogfennau cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg sydd i gael eu cyhoeddi.
Gwasanaethau Trawsgrifio
Mae ein gwasanaeth Trawsgrifio yn cynnig yr ateb perffaith i unrhyw un sydd am drosi sain ffilm neu fideo yn destun. Rydym yn ymfalchïo yn ein cyflymder, cywirdeb a sylw i fanylion, gan sicrhau bod eich trawsgrifiadau yn cael eu cyflwyno ar amser a heb unrhyw wallau.
