top of page

Addysg

Mae gan Dewi Roberts, sylfaenydd Dewi Translation, dros ddeugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sector addysg dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mae'r profiad helaeth hwn wedi rhoi dealltwriaeth fanwl iddo o derminoleg benodol o fewn addysg a’r Cwricwlwm i Gymru. 

 

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Dewi wedi gweithio i lawer o gwmnïau, gan ganolbwyntio ar gynnwys ac adnoddau addysgol megis: Tinint, British Council Cymru, Ysgol Gwyddorau Addysgol - Prifysgol Bangor, Prosiect Cleddau; Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi: AtIC, INSPIRE; Empathy Lab, Gwylan UK, Bumpybox, Sazani Associates, Think Learn Challenge, Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymdeithas Tir Comin Gelligaer a Merthyr a Dyffryn Elan. 

 

Rhwng 2020 a 2024, gweithiodd Dewi fel Darlithydd rhan-amser i’r Ysgol Gwyddorau Addysgol ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi bod yn Ddilysydd/Mentor Sefydlu i Athrawon Newydd Gymhwyso (i GwE) ers 2018. 

Rhwng 2012 a 2022 roedd Dewi yn bartner yn TLC, cwmni Ymgynghoriaeth Addysg. Yn ystod ei gyfnod gyda TLC, arweiniodd ar gyfieithu deunydd ar gyfer nifer o gontractau gwerth uchel, gan gynnwys Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang y Cyngor Prydeinig, Ysgolion Awyr Agored Pen-y-bont ar Ogwr a Chanllawiau Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. 

 

Rhwng 2001 a 2012, roedd Dewi yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn CRIPSAT, Prifysgol Lerpwl, gan reoli nifer o brosiectau cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd swyddi blaenorol Dewi yn cynnwys Uwch Ddarlithydd mewn gwyddoniaeth ac addysg gynradd (Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) yng Ngholeg Prifysgol Hope Lerpwl; Swyddog Prosiect Gwyddoniaeth ar gyfer Canolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Aberystwyth, Athro Ymgynghorol gwyddoniaeth gynradd ar gyfer AALl Clwyd a phennaeth dwy ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru

Cysylltwch â ni i ddechrau

© 2035 gan Elis Roberts

bottom of page