Amdanom ni
Sefydlwyd Dewi Translation gan Dewi Roberts, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o gyfieithu, prawfddarllen a thrawsgrifio o'r Saesneg i'r Gymraeg. Dechreuodd gyfieithu’n broffesiynol trwy gynnig ei arbenigedd i gyrff addysgol, ac erbyn hyn mae wedi ffurfio portffolio mawr o waith, gan gynnwys adnoddau addysg, gwefannau, deunydd rhyngweithiol, taflenni gwybodaeth a llyfrynnau, animeiddiadau a sgriptiau.

Cyfieithiadau sy’n briodol i'r sector, diwylliant a'r cyd-destun
Mae tîm Dewi Translation yn cael ei addasu yn ôl maint a math y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae cyfieithwyr profiadol iawn o bob sector yn cael eu dwyn ynghyd i weithio ar brosiectau penodol, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r sector y mae'r cleient wedi'i leoli ynddo.
​
Mae ein profiad helaeth a’n harbenigedd yn sicrhau bod y deunyddiau a gyfieithir gennym, nid yn unig yn briodol yn ddiwylliannol i’r gynulleidfa Gymraeg, ond byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r termau a’r ymadroddion cywir, sy’n berthnasol i’r cyd-destun dan sylw.
Cleientiaid blaenorol a chyfredol
Mae cleientiaid blaenorol a chyfredol Dewi Translation yn cynnwys: Tinint, British Council Cymru, Ysgol Gwyddorau Addysgol - Prifysgol Bangor, Prosiect Cleddau; PCYDDS: AtIC, INSPIRE; Empathy Lab, Gwylan UK, Bumpybox, Sazani Associates, Think Learn Challenge, Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Cymdeithas Tir Comin Gelligaer a Merthyr, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a Dyffryn Elan.
